Logo
Gwasanaeth

Cefnogi Pobl

Mae'r drefn Cynllunio Person Canolog wrth wraidd y gwasanaeth cefnogi pobl a ddarperir gennym. Mae wedi newid sut y byddwn yn gweithio mewn sawl ffordd, a gobeithio bod y newid hwn yn newid er gwell.

Yn 2001, cyhoeddodd y llywodraeth ei strategaeth i bobl ag anabledd dysgu mewn papur gwyn ‘Gwerthfawrogi Pobl’ ac mae’n cyflwyno’r syniad Cynllunio Person Canolog, sef:

‘proses ar gyfer gwrando a dysgu parhaus, canolbwyntio ar beth sy’n bwysig i rywun yn awr ac yn y dyfodol, a gweithredu ar sail hyn mewn partneriaeth â’u teulu  â’u  ffrindiau.’

Mae Cynllunio Person Canolog yn sail ar gyfer ‘dulliau o gomisiynu, darparu a threfnu gwasanaethau drwy wrando ar beth mae pobl yn dymuno’i gael' ac mae’n hybu’r dulliau hynny. Fe’i seilir ar egwyddor hawliau, annibyniaeth, dewis a chynhwysiant.

Felly, Cynllunio Person Canolog yn golygu helpu rhywun i weld beth maen nhw’n dymuno’i gael, a nod dulliau sy'n canolbwyntio ar yr unigolyn yw gweld sut mae cyflawni hyn. Dylai’r gwasanaethau gydweddu â’r hyn sydd yno eisoes. Mae hyn yn golygu edrych ar y gymuned ehangach a pheidio â chyfyngu’r adnoddau i wasanaethau anabledd dysgu arbenigol.

Pum prif nodwedd o'r cynllun  yw:

·        Mae'r unigolyn yn y canol.

·        Mae aelodau’r teulu a ffrindiau’n bartneriaid llawn.

·        Mae'n adlewyrchu galluoedd person, beth sy’n bwysig i’r person hwnnw, ac mae’n nodi’r gefnogaeth sydd ei hangen arnynt er mwyn iddynt wneud cyfraniad gwerthfawr i’r gymuned.

·        Mae'n meithrin ymrwymiad ar y cyd i sicrhau hawliau’r unigolyn.

·        Mae'n canolbwyntio ar yr unigolyn yn arwain at wrando, dysgu a gweithredu parhaus,  ac mae'n helpu rhywun i gael yr hyn maen nhw'n dymuno'i gael wrth fyw eu bywydau.

Cysylltwch â
ktoms@menterfachwen.org.uk