Newyddion
Newyddion Mwyaf Diweddar
Siop coffi E.B
Agorwyd ein siop goffi newydd ar Stryd Fawr Deiniolen fis Ebrill eleni gan Martin Thomas (Eifion), Siân Rebecca Edwards (Catherine) a Lois Angharad Jones (Beca), sêr Rownd a Rownd, y gyfres boblogaidd ar S4C. Mae’r siop goffi’n gweini coffi espresso, cappuccino a latté ynghyd ag amrywiaeth o gacennau cartref blasus. Cofiwch alw heibio i ddweud helo wrth Meirwen a Blod.
- - - - - - - - - - - - - - - - - - - - - - - - - - - - - - - - - - - - - - - -
Cwrsiau Celf a Chrefft
Mae Annwen Burgess wedi dechrau gweithio yng Nghaban Brynrefail ers mis Ebrill. Mae wedi sefydlu amrywiaeth o gyrsiau celf a chrefft sy’n agored i unrhyw un. Galwch heibio i’w gweld pan fydd yn gyfleus i chi.
- - - - - - - - - - - - - - - - - - - - - - - - - - - - - - - - - - - - - - - -
Newyddion
